Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15
Mai 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
NDM6722 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Medi 2017 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
European Union (Withdrawal) Bill 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfennau
ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol
(45 munud)
(45 munud)
(45 munud)
(60 munud)
NDM6721 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru.
2. Yn credu bod y system cynllunio gwlad a thref mewn lle da i wneud penderfyniadau holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy’n sicrhau bod y nodau llesiant yn cael yr effaith orau bosibl.
3. Yn cydnabod bod cael polisïau cenedlaethol cadarn ar gyfer creu lleoedd ym Mholisi Cynllunio Cymru a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dangos i awdurdodau cynllunio ac eraill sut y mae arwain y gwaith o greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.
4. Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn effeithiol.
Argraffiad Drafft 10 o Bolisi Cynllunio Cymru
Argraffiad 9 Cyfredol o Bolisi Cynllunio Cymru
Ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder er mwyn ei gwneud yn glir bod angen cynnal asesiadau o effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn i’r arolygiaeth feithrin arbenigedd mewn system gynllunio Cymru’n unig.
Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a’r Gymraeg
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 16 Mai 2018